Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 25 Chwefror 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 12.06 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies AC (Cadeirydd) Peter Black AC Christine Chapman AC Mike Hedges AC Alun Ffred Jones AC Ann Jones AC Julie Morgan AC Nick Ramsay AC Kirsty Williams AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Gawain Evans, Llywodraeth Cymru Matt Denham Jones, Llywodraeth Cymru Lyn Cadwallader, Un Llais Cymru Daniel Hurford, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Ian Summers (Cynghorwr Arbenigol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau. Roedd Kirsty Williams yn dirprwyo ar ran Peter Black am ran o’r cyfarfod.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Arferion Gorau o ran y Gyllideb: Ystyried yr Adroddiad Drafft
4.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Arferion Gorau o ran y Gyllideb Rhan 2, a chytunwyd ar nifer fach o newidiadau.
5 Penodi Aelodau anweithredol Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar benodiad Lindsay Foyster fel Aelod anweithredol ar Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru o dan Reol Sefydlog 18.10(v).
6 Ystyriaeth gychwynnol o’r Bil Rhenti Cartrefi (Cymru)
6.1 Ystyriodd y Pwyllgor oblygiadau ariannol y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru).
7 Amcangyfrif Atodol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2014-15
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor Amcangyfrif Atodol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2014-15.
8 Cyllideb Atodol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15
8.1 Ystyriodd y Pwyllgor Gyllideb Atodol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15.
9 Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15
9.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Gawain Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol, Llywodraeth Cymru a Matt Denham-Jones, Pennaeth Rheoli ac Adrodd Cyllidebol, Llywodraeth Cymru.
9.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r canlynol:
· Cadarnhad os yw’r holl gynlluniau tair blynedd a gyflwynwyd gan fyrddau iechyd wedi cael eu cytuno.
· Darparu gwybodaeth am y diogelwch a gynigir i’r gyllideb llywodraeth leol.
10 Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15: Trafod y dystiolaeth
10.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
11 Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Sesiwn dystiolaeth 4
11.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Daniel Hurford, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Lyn Cadwallader, Cyfarwyddwr, Un Llais Cymru ar gyfer ei ymchwiliad.
11.2 Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu gwybodaeth am y ffyrdd y mae awdurdodau lleol yn derbyn cwynion.
12 Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - trafod y dystiolaeth
12.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.